Ysgrifenwyd gan Emma Parsons-Reid
Yn ôl yn 2004, symudodd fy ngŵr Kevin a minnau i cul de sac bach, Lon Werdd yng Nghaerdydd, lle cefais fy magu yn blentyn. Roedd yn cynnwys tua thri ar ddeg o dai ac am nifer o flynyddoedd, ar wahân i chwifio llaw'n gyfeillgar, ‘helo’ cyflym, doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un.
Yn 2011, ar ôl lleihau fy wythnos waith, gofynnais i Kevin a ddylem gael parti stryd, ar gyfer priodas frenhinol Kate a William? Dywedodd ‘Duw, na!’ ond wrth gwrs es i ymlaen efo'r cynllun beth bynnag…. Ac mae’r gweddill, fel maen nhw’n dweud, yw hanes.
Daliodd y Cinio Mawr fy llaw trwy barti 2011 a phob un wedi hynny. Bob blwyddyn gyda fy hyder yn tyfu, daeth cymuned yn fyw. Roedd yn ymddangos mai fi oedd y catalydd yn unig (neu'r gwallgofyn fel y dywedodd fy ngŵr) yr oedd ei angen ar fy stryd i gychwyn arni.
Cyn bo hir, roedd sawl bore coffi, pobl yn cael dathliadau teuluol ond y tro hwn yn cynnwys y cymdogion hefyd. Roedd grwpiau gwahanol o ffrindiau ymhlith y cymdogion ond daethon ni i gyd at ein gilydd ar gyfer y pethau mawr (neu'r Cinio Mawr - ha ha!)
Fy ffrindiau agosaf o'r cychwyn oedd Jill a Marie. Y ddau yn llawer hŷn na fi, fe wnaethant roi doethineb ac ymdeimlad o ddiogelwch i mi nad oeddwn wedi dod ar eu traws o'r blaen gyda phobl fy oedran fy hun. Wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaenau, aethant yn hŷn wrth gwrs. Bu Kev a minnau gynorthwyo gyda gŵr Jill a oedd â salwch terfynol, gan ei chefnogi pan fu farw. Tyfodd Marie, yn ei 80au hwyr yn fregus, yn methu â gadael y tŷ yn aml iawn. Ychydig flynyddoedd yn ôl, penderfynais fod yn ofalwr iddi yn broffesiynol ac yn bersonol. Roedd blynyddoedd o gyfeillgarwch yn golygu ei bod yn ymddiried ynof a chymerais ofal ohoni yn gorfforol tra byddem yn dal i gael cyfle i chwerthin a chloncan. Fe wnaethon ni ei gwahodd i bopeth; partïon, cinio allan. Yn ddiweddarach yn y cyfnod cloi, newidiodd hyn i goffi ar ddreif cymdogion. Cawsom barti stryd â phellter cymdeithasol diwrnod VE ym mis Mai 2020. Roedd yn ddiwrnod hyfryd o boeth a bu Marie a Jill fwynhau'n fawr iawn. Roedd canser ar Steve, y cymydog rhwng tai'r ddwy, ond roedd allan hefyd, gyda'i wraig Geraldine; yn wan ond yn mwynhau'r dathliadau. Yn anffodus hwn oedd y tro olaf y byddem ni i gyd gyda'n gilydd.
Ym mis Rhagfyr daliais Covid. Doeddwn i ddim yn gwybod hynny pan es i ofalu am Marie. Dim ond yn rhy hwyr y sylweddolais, doedd gen i ddim o'r symptomau amlwg. Aeth ychydig ddyddiau pryderus heibio ond datblygodd Marie beswch. Cafodd hi brawf positif. Roedd ei merch gyda hi, roedd ganddi symptomau hefyd. Roeddwn i'n sâl iawn ond gwnes i'r penderfyniad i aros gyda nhw a nyrsio Marie. Ar ôl un noson yn unig, sylweddolais fy mod yn dal yn rhy sâl i ymdopi ac yn poeni am ddirywiad Marie. Roedd ei merch yn ddryslyd gyda Covid ac roedd yn llewygu o hyd. Penderfynais alw ambiwlans. Fe helpais i setlo Marie yn yr ambiwlans a dywedais wrthi ‘Bydda i’n dod i nôl chi mewn ychydig ddyddiau ar ôl iddi gael hylifau yn yr ysbyty’ roedd yn rhaid i mi ddweud wrthi fod ganddi covid yr oeddwn i wedi’i chadw oddi wrthi tan hynny. Roedd hi wedi dychryn ond dywedodd wrthyf ei bod yn ymddiried ynof. Roeddwn i'n teimlo mor isel ag y mae'n bosibl teimlo wrth glywed ei geiriau hi. Hwn oedd y tro olaf i mi ei gweld hi.
Yn y cyfamser roedd Jill a'r cymydog rhyngddynt Steve yn cael eu problemau eu hunain. Roedd canser Jill, rwy’n credu, wedi stopio i ymateb i'r driniaeth. Roedd hi'n derbyn gofal diwedd oes gartref. Roedd canser Steve hefyd wedi cyflymu ac yn sydyn fe aeth i'r ysbyty gyda cheuladau gwaed a achoswyd gan ei driniaeth.
Roedd ein stryd ni mewn trallod. Roedd pob tŷ yn byw i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Marie, Jill a Steve. Roedd hi'n aeaf, roeddem ni dan gyfyngiadau symud ac roeddem i gyd yn teimlo'n ddiymadferth wedi torri i ffwrdd oddi wrth ein gilydd yn y dyddiau a ddilynodd. Ni allaf ddisgrifio'r cysgod a gwympodd ar ein ffordd.
Daeth bore Ionawr 5ed â newyddion bod Steve wedi marw am 8am yn 64 oed. Ganol dydd a'r newyddion bod Marie wedi marw'n heddychlon yn yr ysbyty yn 91 oed, erbyn y nos roedd Jill wedi marw yn ei chartref annwyl yn 83 oed.
Roedd trigolion y stryd mewn sioc, y tri thŷ yn olynol, i gyd yn marw ar yr un diwrnod. Fodd bynnag, roedd rhywbeth barddonol ym mhob un o’r tri ffrind yn gwneud eu taith olaf gyda’i gilydd, roedd hynny'n rhoi rhywfaint o gysur i mi. Roedd hynny'n rhywfaint o gysur i bawb. Mae hynny'n dal i roi rhywfaint o heddwch i ni i gyd, hyd yn oed nawr.
Oherwydd ein bod wedi rhannu cymaint o gyfnodau hapus gyda'n gilydd fel cymuned gyda'n gilydd, a fyddai ein cyfeillgarwch nawr yn cael ei brofi yn y dyddiau ofnadwy hyn? A allem ni oroesi'r storm hon o alar ar y cyd, gyda'n gilydd? Cefnogi ein gilydd hefyd?
Fel mae'n digwydd, roedd hyn yn bosib.
Ni fyddai tywydd gwael, hyd yn oed pandemig yn ein cadw ar wahân! Cyfarfu pob hers a ymwelodd â'n ffordd cyn yr angladdau gan bob cymydog ar y palmant, daeth rhai o strydoedd eraill gerllaw, staff y siop leol, hyd yn oed teuluoedd cymdogion. Welwch chi, roedd pawb yn caru ein ffordd. Heidiodd pobl o gymdogaethau mwy crand na’n rhai ni hyd yn oed at ein partïon yn llawn cenfigen o’r hyn a oedd gennym.
Cymeradwywyd pob hers allan o'n ffordd fach. Roedd pawb ohonom yn caru pob un o'r preswylwyr hynny. Mae gennym atgofion cynnes, llawen ohonynt a fydd yn parhau mewn straeon a ffotograffau. Wrth gwrs byddwn yn gwneud rhai newydd, gyda'n gilydd a gyda phwy bynnag fydd ein cymdogion newydd un diwrnod. Byddwn yn eu croesawu â gwên.
Rwy'n gwybod bod gan bawb deulu a ffrindiau rhyfeddol, ond mae rhywbeth unigryw gyda chymdogion, onid oes yno? Dydych chi ddim yn eu dewis nhw. Dydyn nhw ddim yn eich dewis chi. Dieithriaid yn unig ydyn nhw o'ch cwmpas, sy'n eithaf brawychus i gychwyn pan rydych chi'n byw yn rhywle newydd. Yn yr un modd, efallai na fyddwch yn eu dewis fel ffrindiau neu o bosibl ddim hyd yn oed yn hoffi rhai ohonynt! Ond mae yna rywbeth amdanoch chi i gyd yn yr un cwch, i gyd yn cael eich trafferthu gan yr un eira sy'n eich rhwystro rhag cyrraedd y gwaith, i gyd yn gwneud eich garddio ar ddiwrnod poeth. Cymuned o bobl fel chi a fi yn unig yw pob stryd a bloc o fflatiau, gwerin gyffredin iawn, weithiau'n unig.....angen sgwrs efallai? Os ydych chi'n ddewr ac yn barod i roi eich hun allan yna, fe ddewch ar draws cyfeillgarwch newydd a gwneud atgofion hyfryd gyda'ch gilydd.
A fi? Baswn i ddim yn newid unrhyw beth.
Emma Parsons-Reid
Os hoffech chi greu cymuned lle rydych chi'n byw a dod i adnabod eich cymdogion ychydig yn well, darganfyddwch fwy am Y Cinio Mawr yma!