Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Y Cinio Mawr yn rhan o ddathliadau swyddogol Jiwbilî Blatinwm Ei Mawrhydi Y Frenhines yn 2022!
I ddathlu 70 mlynedd o deyrnasiad EM Y Frenhines, cynllunnir Penwythnos Gŵyl y Banc pedwar diwrnod arbennig, rhwng dydd Iau yr 2il a dydd Sul y 5ed o Fehefin.
Mae Palas Buckingham wedi cyhoeddi rhaglen ddigwyddiadau gyffrous ar gyfer y penwythnos hir a gyda'n gilydd rydym yn gwahodd cymunedau ar draws y DU i ddod ynghyd unwaith eto ar gyfer 'Cinio Mawr y Jiwbilî' ar ddydd Sul 5 Mehefin 2022.
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad cyntaf Cinio Mawr y Jiwbilî, i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt Y Frenhines yn 2012, rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn hynod o arbennig arall gyda llawer o resymau dros ddod ynghyd a dathlu. Fel a wnawn trwy'r amser, byddwn yn annog digwyddiadau diogel o bob math a maint i ddigwydd ym mha ffordd bynnag sy'n gweithio orau i chi a'ch cymuned.
Gallech chi ddod at eich gilydd i wylio'r Pasiant Platinwm, parêd cyfareddol sy'n cyfuno celfyddydau stryd, theatr, cerddoriaeth, syrcas, carnifal a gwisgoedd, neu gynnal eich sioe eich hun i arddangos doniau lleol yn eich Cinio Mawr.
Ni waeth p'un a fyddwch yn rhannu paned gyda chymydog ar y garreg drws neu dros y ffens neu'n cynnal sbloet fwy ei maint yn y stryd neu mewn parc gerllaw, mae'r 14eg Cinio Mawr yn sicr o fod yn un anhygoel, gan ddod â miliynau o bobl at ei gilydd i rannu cymuned, cyfeillgarwch a hwyl.
Cynllunnir rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau cyhoeddus ar gyfer penwythnos y Jiwbilî Blatinwm, gan gynnwys digwyddiad traddodiadol Cyflwyno'r Baneri ar gyfer Pen-blwydd Swyddogol y Frenhines a chynnau miloedd o begynau ar draws y DU - y ddau beth yn digwydd ar ddydd Iau 2 Mehefin - a chyngerdd fawr ei bri gan y BBC ar ddydd Sadwrn 4 Mehefin.
Disgwylir mwy o fanylion am y rhaglen gyhoeddus lawn yn y misoedd i ddod, ond am y tro, cofiwch roi 2-5 Mehefin 2022 yn eich dyddiadur a pharatowch i ymuno â miliynau o bobl eraill ledled y DU ar gyfer Cinio Mawr y Jiwbilî!
Gallwch chi gael gwybod y diweddaraf am Y Cinio Mawr a Chinio Mawr y Jiwbilî trwy gofrestru i dderbyn eich cylchlythyr misol.