Mae Lindsey, ein Cyfarwyddwr Rhaglenni, yn treulio llawer o amser ar y ffordd felly does ganddi ddim llawer o amser i gwrdd neu siarad â'i chymdogion. Y Nadolig hwn, fe benderfynodd hi agor ei thŷ i'w chymuned dros yr ŵyl. Dyma sut aeth hi ati i wneud hynny ynghyd â'r hyn ddysgodd hi...
Wedi fy ysbrydoli gan her #HelloNeighbour Nextdoor, postiais wahoddiadau i ddod i fy nhŷ. Nid i bobl roeddwn i'n eu hadnabod, ond i ddieithriaid sy'n byw gerllaw - fy nghymdogion. Am frawychus! Mae'n bosib fy mod yn teimlo'r angen i wneud yn iawn am yr ansicrwydd parhaus ar draws y DU trwy wneud yn gwbl siŵr bod y Nadolig yn teimlo fel y Nadolig. Er hyn, cefais lwyth o gyngor 'defnyddiol' o rai o fy ffrindiau agosaf...
'Ai dyma ffordd ddiog o chwilio am ŵr?' meddai un... 'Ym, na'. 'Wyt ti wir wedi rhoi dy gyfeiriad i'r bobl hyn? Beth os yw un ohonynt yn llofrudd!' a mwyaf pryderus oll 'Sicrha na fod dy wahoddiad yn gwneud i'r digwyddiad swnio fel trythyllwest!'
Roedd y nifer fechan o ymatebion cadarnhaol yn cadarnhau fy mod yn gwneud rhywbeth neis. Dywedodd y mwyafrif bod y syniad yn un hyfryd ond bod eisoes ganddynt gynlluniau ar y dyddiad hwnnw. Mae fy meirniad mewnol, sydd wedi bod yn brysur yn fy meirniadu ers fy moment o wallgofrwydd, yn hynod falch... ond yna mae digon o bobl yn ymateb 'Syniad gwych - welwn ni chi yno!' i gadw'r lefelau pryder yn ddigon uchel.
Wrth i'r noson agosáu, rwy'n cofio'r holl resymau dydw i byth fel arfer yn gwahodd pobl i fy nhŷ. Mae'n anodd dod o hyd iddo, byddai'n rhaid i mi lanhau, cuddio'r llanast, addasu'r goleuadau, ymddiheuro am y gwres, mynd i siopa, siarad â dieithriaid a threulio'r noson yn esgus fy mod yn gwneud y math hwn o beth yn rheolaidd. Gwaethaf oll, dydw i ddim yn gwybod enwau fy nghymdogion. O leiaf bydd yna ddiodydd, rwy'n dweud wrthyf fi fy hun - a dylwn i fod yn gallu eu cyrraedd cyn pawb arall.
Felly dyma fi'n postio cardiau Nadolig yn y tai drws nesaf yn eu gwahodd i alw heibio, ond heb enwau arnynt i osgoi'r embaras. Rhoddais arwydd croeso ar y gât a phrynu cylch corgimychiaid ar gyfer y noson - sy'n hanfodol yn ôl yr hysbysebion teledu. Rwy'n rhoi caws a bisgedi allan ar y bwrdd, yn rhoi selsig yn y ffwrn ac yn blasu'r gwin twym cynifer o weithiau fy mod yn hanner meddw cyn i'r person dewr cyntaf ddilyn y goleuadau bach i fyny'r llwybr. Dyma'r noson yn cychwyn...
Yn rhyfedd ddigon, dyw'r noson ddim yn frawychus, neu hyd yn oed mor rhyfedd â'r disgwyl. Mae fy nghymdogion yn grŵp hyfryd o bobl gyffredin yn amrywio o 7 oed i dros 70. Mae rhai yn adnabod ei gilydd ac mae eraill yn newydd i bawb. Mae pawb yno yn eu siwmperi Nadolig anhygoel yn trafod gwin, addewidion o gwrdd yn y dyfodol, blodau, problemau parcio, straeon hanesyddol am y pentref ac, ar gyfer y sawl o oedran gyrru, profiad o ddirwy goryrru ar yr A30.
Mae un cwpl yn edrych am rywun i ofalu am eu tŷ, basai un arall un buddio o gael ychydig o gymorth oherwydd salwch hir dymor a nawr rydw i'n gwybod pwy i holi os ydw i angen adeiladwr da. Ni ddes i o hyd i ŵr neu lofrudd... Roeddent yn bobl normal, rhai'n ddoniol, rhai'n nerfus, rhai'n feichiog, a rhai'n sâl. Roedd pob un ohonynt yn ddiolchgar am y gwahoddiad i'r digwyddiad ac am y cyfle i ddod i adnabod ei gilydd yn well.
Nid oedd yn hawdd cymryd y cam cyntaf, ond nawr fy mod wedi gwneud hynny, bydd yn haws y tro nesaf. Mae un cymydog wedi ein gwahodd i'w dŷ ar Nos Galan ac ar ôl hynny bydd Y #CinioMawr 2019 yma'n fuan am gyfle i ni ddod ynghyd yn ystod tywydd braf (gobeithio) mis Mehefin.
Beth am fod yn ddewr a threfnu digwyddiad ar gyfer eich cymdogion yr haf hwn gyda'r Cinio Mawr, dyma'r cyfnod perffaith i gychwyn trefnu!
Hoffech chi ennyn diddordeb pobl yn eich cymuned? Cymerwch olwg ar y tri awgrym gwych hyn.
'Rwyf wedi darganfod mai bodau dynol, nid pobl i'w hofni yw fy nghymdogion wedi'r cwbl!'