Felly, rydych chi wedi cael eich Cinio Mawr ac wedi plygu'r byntin...ond, beth nesaf? Os ydych chi wedi cael blas ar ddod â'ch cymuned at ei gilydd, beth am ymuno â Locality, y rhwydwaith aelodaeth cenedlaethol ar gyfer sefydliadau cymunedol.
Maen nhw'n credu ym mhŵer y gymuned i greu cymdeithas tecach, ac yn cefnogi sefydliadau cymunedol i fod yn gryf ac yn llwyddiannus, i fodloni anghenion lleol ac i annog lleoedd gwell i fyw ac iechyd da.
Cael eich ysbrydoli gan bŵer cymuned
Mae Locality yn gweithio gyda phobl a sefydliadau lleol ledled Lloegr sy'n creu ym mhŵer cymuned ac sydd â phrofiad personol o weld y pethau anhygoel mae cymunedau'n gallu eu gwneud.
Cymerwch olwg ar rai straeon ysbrydoledig ar sut mae pobl leol wedi arbed adeiladau, parciau a mannau poblogaidd dan berchnogaeth y cyhoedd rhag cael eu gwerthu at ddibenion preifat. Gallwch wneud yr un peth, y cwbl mae'n ei gymryd yw un cam bach.
Symud pethau ymlaen
Oes gennych chi syniad gwych? Mae'n bwysig cymryd yr amser i ddeall yr hyn rydych chi'n ceisio cyflawni wrth sefydli grŵp neu fudiad cymunedol newydd. Cymerwch olwg ar ganllaw can-wrth-gam defnyddiol Locality ynghyd â'u hadnoddau eraill am ddim i'ch helpu i gael yr elfennau hanfodol yn eu lle i wireddu'ch breuddwydion cymunedol.
Ar waith
Unwaith bod gennych chi grŵp o bobl gyda'i gilydd yn fwy ffurfiol a'ch bod yn gweithio ar brosiect neu ymgyrch, efallai bydd angen ychydig o gymorth arnoch chi. Dyma le mae rhwydwaith aelodaeth Locality yn ddefnyddiol. Mae'n cynnwys cannoedd o fudiadau cymunedol sy'n creu mannau lle mae croeso i bawb ac fel aelod byddwch yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, yn cwrdd â'r bobl gywir ac yn ymgyrchu dros newid.
IOs ydych yn delio gyda phroblem anodd, bydd Locality yn eich helpu i ddod o hyd i aelod arall sy'n brofiadol, er mwyn i chi allu osgoi rhwystrau tebyg. Os oes angen rhagor o gefnogaeth arnoch, gallwch siarad ag arbenigwr Locality. Mae ganddyn nhw gynghorwyr arbenigol ar draws y wlad sy'n ymdrin â phopeth o drefn llywodraethu, marchnata ac ymgysylltiad cymunedol i adnoddau am ddim a digwyddiadau i aelodau yn unig.
Gyda'n gilydd
Y peth pwysicaf i gofio yw bod dim rhaid i chi wneud y newidiadau hyn ar eich pen eich hun. Mae gan grwpiau eraill lawer i'w rannu ac maen nhw yno i'ch cefnogi chi. Mae gan Locality dros 700 o aelodau ledled y wlad yn helpu pobl yn eu hardal leol - ac yn helpu ei gilydd!
Mae rhwydwaith Locality yn cysylltu mudiadau cymunedol trwy ddigwyddiadau, gan gynnwys Confensiwn blynyddol Locality, a chymunedau ar-lein. Anogir ymweliadau wyneb-yn-wyneb i'ch helpu i 'edrych i fyny ac edrych allan' er mwyn adnabod cyfleoedd a datrysiadau newydd. Mae cyfle i wneud cais am ariannu hyd yn oed... darllenwch am gais grŵp trigolion lleol All Saints Action Network o Fryste i ariannu eu hymweliad i Lerpwl.
Gobeithiwn y gallwch adeiladu ar eich profiad o'r Cinio Mawr a pharhau i ddatgloi pŵer eich cymuned. Ewch ati!