Ar-lein, ar stepen y drws, dros y ffens neu allan ar hyd y lle - mae nifer o wahanol ffyrdd y gallwch ymuno yn Y Cinio Mawr yr haf hwn gan gadw popeth yn ddiogel ac yn gynhwysfawr ar eich cyfer chi a'ch cymuned.
Ar ben hynny, gallwch ddewis eich dyddiad mawr eich hun i ddathlu, gan ein bod yn ymuno ag achosion da ledled y DU am ar gyfer Mis Y Gymuned - gan ddechrau gyda phenwythnos Y Cinio Mawr ar 5 Mehefin.
Felly, chi sydd i benderfynu ar y sut, y ble a'r pryd, y peth pwysicaf yw dod â phobl at ei gilydd i ddod i adnabod ei gilydd ychydig yn well ac i gael hwyl! Sicrhewch eich bod yn gwirio canllawiau diweddaraf y Llywodraeth ac yn cynllunio'ch Cinio Mawr gyda diogelwch, rhifau grwpiau a rheolau pellhau cymdeithasol mewn cof.
Dyma ein hawgrymiadau ar gyfer Cinio Mawr sy'n ddiogel yn gymdeithasol!
1. Allan yn yr awyr agored
Dewiswch leoliad awyr agored gyda lle i ymledu - megis parc neu ar eich stryd. Yn lle un bwrdd mawr, cymunol beth am gael ychydig o fyrddau, gosod cadeiriau allan gyda digon o le rhyngddyn nhw neu eistedd ar flancedi picnic. Chi sydd i ddewis. Mae pawb eisiau cadw'n ddiogel, felly cadwch at y niferoedd a argymhellir, a phellteroedd diogel, a chofiwch eich diheintydd dwylo.
Fel y gwelsom gyda Chinio Mawr y llynedd, gall hyd yn oed trefnu amser i ddod y tu allan ac eistedd ar stepen eich drws i gael sgwrs gyda chymdogion fod yn ffordd hyfryd o gysylltu, felly does dim rhaid iddo fod yn fawr!
2. Cadwch y bwyd yn syml
Mae mwynhau bwyd gydag eraill yn ffordd wych o greu cysylltiadau ac i ddod i adnabod pobl yn well, ond mae'r gwir hud a lledrith yn digwydd mewn Cinio Mawr pan fo pobl yn cychwyn sgwrsio a chymryd yr amser i siarad a chael hwyl gyda'i gilydd. Felly beth am gadw pethau'n ddiogel ac yn syml ac annog pawb i ddod â'u bwyd, diodydd, cwpanau, cyllyll a ffyrc a phlatiau eu hunain - nid oes angen llawer o baratoi ymlaen llaw ar gyfer hyn ac mae hefyd yn lleihau gwastraff. Os ydych chi'n paratoi pethau i'w rhannu, gwnewch fwyd mewn dognau wedi'u lapio'n unigol, fel teisennau cwpan a rholiau selsig.
3. Cadwch bethau'n hwylus
Crëwch leoliad croesawgar siriol ble bynnag yr ydych gydag addurniadau syml. Addurniadau cartref neu siop, does dim ots, ac os ydych chi'n ei bacio'n ofalus gallai fod yn dda ar gyfer flwyddyn nesaf hefyd! Hongiwch faneri ar eich tŷ, dros ffensys neu wrychoedd a hyd yn oed addurno coed. Defnyddiwch rubanau neu ffabrig ac unrhyw beth sy'n hwyl wrth law, rhowch ychydig o sialc i'r plant a'u gwylio yn trawsnewid y palmant, a gorffennwch gydag ychydig o gerddoriaeth i godi hwyliau pawb.
4. Cynhaliwch Ginio Mawr ar-lein
Mwynhewch ysbryd cymunedol mawr ei angen o gysur eich soffa a chynnal Cinio Mawr ar-lein. Gallwch ddefnyddio platfformau megis Microsoft Teams, Zoom, neu Facebook Rooms i ddod â phobl at ei gilydd. Cymerodd pedair miliwn o bobl ran yn y Cinio Digidol Mawr y llynedd a dywedodd 91% mai dyna'r union beth yr oedd ei angen arnynt.
5. Gwnewch alwad ffôn hen ffasiwn
Nid yw pawb ar-lein neu'n gallu cymryd rhan mewn galwad fideo, felly peidiwch anghofio eich bod yn gallu cymryd rhan trwy godi'r ffôn a chael sgwrs gyda rhywun. Ffoniwch am sgwrs i ddal i fyny â'r holl hanes. Gallai fod yn rhywun o'ch stryd neu'n hen ffrind ysgol. Am ffonio rhywun o grŵp cymunedol? Beth am wahodd pawb i ffonio rhywun arall er mwyn cadw'r sgyrsiau i fynd.
6. Ewch am Ginio Mawr cerdded a siarad
Beth am bacio brechdan a dod at ein gilydd am Ginio Mawr wrth fynd? Mae cerdded a siarad yn mynd yn naturiol iawn gyda'i gilydd ac mae cerdded mewn grŵp bach yn ffordd wych o gymdeithasu a theimlo mwy o gysylltiad. Mae'n ymarfer corff gwych hefyd!
Yn barod i gychwyn ar y cynllunio? Cofrestrwch ar gyfer ein pecyn Y Cinio Mawr am ddim sy'n llawn awgrymiadau, syniadau a chyngor ar sut i gynnal Cinio Mawr yn ddiogel, ac ymunwch â'r sgwrs ar ein sianeli cymdeithasol (Twitter, Facebook ac Instagram) a'n grŵp cymunedol ar Facebook i sgwrsio gyda Chiniawyr Mawr eraill.