Byddai ychydig o lawenydd yn donic i bob un ohonom ar hyn o bryd, felly dyma rai syniadau i roi cynnig arnynt dros yr haf (a thu hwnt!) i greu cysylltiadau â'n cymdogion, i ychwanegu ychydig o liw at ein strydoedd ac i ledaenu ychydig o ysbryd cymunedol. Mae pethau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr felly beth am roi cynnig ar un o'r syniadau hyn a chofiwch rannu eich syniadau eich hun gyda ni ar Twitter ac Instagram, neu ymunwch â'n Grŵp Facebook.
1. Camwch du allan a threuliwch ychydig mwy o amser y tu allan i'ch drws ffrynt
Dyma ffordd syml o gysylltu â chymdogion sy'n cerdded heibio a'r cwbl sydd angen i chi wneud yw camu tu allan - syml.
2. Mae gwên, chwifio llaw neu ddweud helo yn gallu mynd yn bell
Mae gwenu'n heintus - mewn ffordd dda! Mae unigrwydd yn effeithio ar bobl o bob oedran ac mae nifer ohonom yn teimlo'n fwy pryderus ac unig ar hyn o bryd. Mae'n bosib mai gwên neu 'helo' syml yw'r unig gyswllt mai person wedi cael y diwrnod hwnnw felly gallai wneud gwahaniaeth enfawr i sut maen nhw'n teimlo. Gallai hefyd wneud i chi deimlo'n hapusach ac ychydig yn fwy cysylltiedig, felly byddwch yn ddewr a chodwch law ar bobl!
3. Byddwch yn chwareus
Defnyddiwch eich ochr chwareus a defnyddiwch sialc i dynnu esgil neu gêm neidr enfawr ar y palmant. Cewch eich synnu faint o bobl fydd yn cymryd rhan wrth iddynt gerdded heibio - dydyn ni methu peidio!
4. Gwnewch amser am baned
Beth am gael sgwrs dros baned gyda chymydog? Peidiwch ag anghofio'r bisgedi! Boed mewn gardd, mewn parc y tu allan i'ch drysau ffrynt, does dim byd gwell na sgwrs efo ffrind.
5. Glanhewch eich stryd neu ardal leol
Codwch gasglwr sbwriel a menig ac ewch ati, ceisiwch wahanu'r sbwriel wrth i chi fynd er mwyn i chi allu ailgylchu cymaint â phosib. Rydym yn weddol siŵr y bydd pobl yn fodlon eich helpu a bydd eich strydoedd yn dwt ac yn daclus ymhen dim!
6. Cychwynnwch lwybr cymunedol
Beth am greu llwybr o amgylch eich ardal leol i bobl ei dilyn ac archwilio. Gallech ddefnyddio tirnodau cyfredol neu goed i nodi lle i droi neu ychwanegu cerrig wedi'u peintio, arwyddion neu faneri i'w nodi ar y ffordd. Cofiwch fod yn gyfeillgar i'r byd natur, ac os ydych chi'n teimlo'n greadigol, ychwanegwch gliwiau i wneud pethau ychydig yn anoddach!
7. Cael grŵp at ei gilydd
Cychwynnwch grŵp gyda phobl o'r un meddylfryd, clwb llyfrau ar-lein efallai, neu beth am awgrymu grŵp cerdded cymunedol i gynyddu nifer eich camau - dewiswch lwybrau lle mae'n haws cadw pellter diogel. Mae cychwyn rhywbeth lleol yn ei gwneud yn haws i bobl ymuno hefyd.
8. Cychwynnwch neidr gerrig yn eich cymuned
Fe welsom y syniad hyfryd hwn yn grŵp Ein Cymuned ar gyfryngau cymdeithasol, mae'n ffordd wych o gadw'r plant yn brysur mewn modd creadigol hefyd. Addurnwch y cerrig fel y mynnwch chi, efallai gyda neges o ddiolch neu gefnogaeth, neu ddarlun lliwgar i ychwanegu ychydig o hapusrwydd at ddiwrnod rhywun. I gael cefnogaeth eich cymuned, gosodwch arwydd yn esbonio'r syniad er mwyn annog eraill i ymuno - rydym yn sicr y bydd gweld y neidr liwgar yn rhoi gwên ar wyneb pobl.
9. Crëwch eich tŷ tylwyth teg eich hun
Crëwch ychydig o hud a lledrith yn eich parc lleol trwy ychwanegu tŷ tylwyth teg neu ddau. Dewch o hyd i ardal i roi'ch tŷ i'w gadw'n ddiogel rhag y gwaethaf o'r tywydd (gallai hynny fod yn dwt rhwng canghennau neu ar waelod coeden) a cheisiwch gadw'r deunyddiau mor naturiol â phosib er mwyn iddo beidio â chreu sbwriel. Gyda lwc, byddwch yn eu gweld yn lluosogi trwy hud wrth i bobl eraill ymuno yn yr hwyl.
10. Ewch yn wyrdd!
Mae gwyrddu (ychwanegu planhigion, coed a mannau gwyrdd i awyrgylch trefol i'w gwneud yn lle gwell i fyw a gweithio) yn helpu pobl i gysylltu â natur, yn glanhau ein haer ac yn gwneud ardal ychydig yn harddach! Beth am gychwyn trwy blannu blodyn yn eich stryd ac annog eraill i ymuno hefyd?